sut rydyn ni’n eich cefnogi chi

cymorth a lwfans maethu yn sir fynwy

sut rydyn ni’n eich cefnogi chi

Rydyn ni yma i’ch cefnogi chi. Mae hynny’n golygu y byddwn ni’n gwneud ein gorau glas i’ch helpu i roi cartref sefydlog a chariadus i blentyn maeth.

Hyd yn oed cyn i blentyn gyrraedd, mae Maethu Cymru Sir Fynwy yn darparu canllawiau a hyfforddiant manwl i wneud yn siŵr bod maethu yn addas i chi a’ch teulu. Ond dyw’r cymorth ddim yn dod i ben yno.

Unwaith eich bod yn maethu plentyn, rydyn ni’n cynnig:

  • arweiniad parhaus gan weithiwr cymdeithasol dynodedig
  • tâl maethu i dalu costau byw hanfodol
  • cymuned o deuluoedd maeth lleol sy’n gallu rhannu profiadau
  • cyfeillgarwch a digwyddiadau cymdeithasol
  • a llawer mwy o fuddion.

Mae’n bwysig ystyried yr holl fuddion lleol er mwyn cael gwell dealltwriaeth, cyn cymharu taliadau gofalwyr maeth.

Darllenwch ymlaen i ddysgu mwy am y cymorth maethu a’r gwobrau rydyn ni’n eu cynnig.

lwfans gofal maeth

ydy gofalwyr maeth yn cael eu talu?

Ydyn, mae gofalwyr maeth yn derbyn taliad i dalu costau gofalu am blentyn.  Bydd y swm hwn yn amrywio ar sail sawl ffactor, gan gynnwys

  • faint o blant rydych chi’n eu maethu
  • oedran y plant
  • ac ers pryd rydych chi wedi bod yn maethu.

Fodd bynnag, dyw bod yn ofalwr maeth ddim yn swydd gonfensiynol. Nid yw’n ffitio mewn bocs. Mae’n alwedigaeth fedrus 24-7 gartref rydyn ni’n eich cefnogi’n ariannol i’w gwneud.

Yn Maethu Cymru Sir Fynwy, rydym yn gofalu am blant fel eu bod yn derbyn popeth sydd ei angen arnynt i ffynnu, felly rydyn ni’n rhannu’r taliad yn 3 ran: y lwfans plant wythnosol + ffi’r gofalwr + taliadau ychwanegol.

lwfans plentyn

Yn Sir Fynwy, y taliad lwfans plant unigol yw £253-£273 yr wythnos, yn dibynnu ar oedran y plentyn. Rhoddir y taliad hwn at y diben penodol o brynu unrhyw beth sydd ei angen ar y plentyn, fel bwyd, dillad neu bethau ymolchi ynghyd â thalu biliau cartref ychwanegol.

ffi gofalwr maeth

Telir ffioedd ar ben lwfansau i gydnabod amser, sgiliau a phrofiad gofalwr maeth. Yn Sir Fynwy, mae ffi’r gofalwr maeth yn amrywio o £100 i £200 y plentyn.

taliadau ychwanegol

Yn Sir Fynwy, rydym hefyd yn talu costau teithio (45c y filltir), pythefnos o seibiant â thâl y flwyddyn, gostyngiad o 30% ar y dreth gyngor (hyd yn oed os yw’r gofalwr maeth yn derbyn gostyngiad fel person sengl), ac rydym yn darparu offer dechrau hanfodol.

ein hymrwymiad i chi

Mae pob Awdurdod Lleol yng Nghymru wedi cytuno i'r hyn rydyn ni'n ei alw'n 'Ymrwymiad Cenedlaethol'. Mae hwn yn becyn y cytunwyd arno o hyfforddiant, cefnogaeth a gwobrau sy'n cael ei fwynhau gan bob un o'n gofalwyr maeth yng Nghymru.

tîm maethu lleol

Dydych chi ddim allan yna ar eich pen eich hun.  Mae gennych dîm i’ch cefnogi a’ch annog, bob cam o’r ffordd.

Mae cymorth ar gael ar unrhyw adeg – nid o fewn oriau swyddfa yn unig. Rydym wedi ymrwymo i weithio fel tîm gyda’n gofalwyr maeth, ac mae hynny’n golygu bod wrth law 24/7.  Beth bynnag sydd ei angen arnoch, pryd bynnag y bydd ei angen arnoch, byddwn ni yno.

Supervising social worker and foster carer

gweithiwr cymdeithasol maethu ymroddedig

Bydd gennych weithwyr cymdeithasol proffesiynol medrus a phrofiadol wrth law, gydag aelod o’r tîm maethu sydd wedi ymrwymo i’ch cefnogi chi, eich teulu a’ch rhwydwaith.

Mae Maethu Cymru Sir Fynwy yn rhan o’r awdurdod lleol, yn gweithio ochr yn ochr â gweithiwr cymdeithasol y plentyn. Mae hyn yn golygu y gallwch gael mynediad at wybodaeth am y plentyn ac adrannau gwasanaethau cymdeithasol eraill a chael cysylltiadau gwaith agosach â thimau gofal cymdeithasol plant.

Group standing in front of mural

cymorth cyfoedion

Byddwch hefyd yn cael eich gwahodd i ddigwyddiadau a gweithgareddau i ddod â chi’n agosach at deuluoedd maeth eraill.  I roi profiadau newydd, cyfeillgarwch newydd, ac atgofion newydd i chi. Bydd gofalwyr maeth arloesol profiadol yn eich cefnogi chi.

Mae mynediad hefyd at gymorth gan gymheiriaid i ofalwyr maeth gwrywaidd o’r enw Men who Care.

Adult with teenage boy in kitchen making food together

cyfleoedd dysgu

Mae ein fframwaith dysgu a datblygu wedi’i brofi, wedi’i ddatblygu gyda gofalwyr maeth ac yn gyson ledled Cymru. Mae cyrsiau hyfforddi lleol yn ffordd wych o gwrdd â gofalwyr maeth eraill, ac rydym yn cynnig adnoddau, offer a ffyrdd eraill o ddysgu hefyd.

foster carer hugging young woman

mwy o gwestiynau am gymorth ariannol?

Byddwn yn rhannu ac yn esbonio'r holl gymorth y gallwch ei gael. I gael dadansoddiad llawn o'r lwfansau maethu lleol a'r cymorth ariannol yr ydym yn ei gynnig, gofynnwch am becyn gwybodaeth.

gofyn am becyn gwybodaeth

cymorth arall a gwobrau

Icon of tickets/passes

cerdyn ‘MAX’

Cerdyn disgownt mwyaf blaenllaw’r DU ar gyfer plant sy’n derbyn gofal, sy’n rhoi mynediad am ddim neu am bris gostyngol i leoliadau fel ‘Lasertag’, amgueddfeydd a chestyll.

Training icon

Monlife

Nofio am ddim i’r teulu cyfan yn unrhyw un o ganolfannau hamdden Cyngor Sir Fynwy.

Allowances icon

Cerdyn Golau Glas

Mae’r Cerdyn Golau Glas yn rhoi ystod anhygoel o ostyngiadau i chi ar siopa bwyd, siopau manwerthu o bob math a lleoliadau bwyd.

Coffee mug icon

Gofalwyr Maeth i Ofalwyr Maeth (FC4FC)

Grŵp cymorth annibynnol a sefydlwyd ac a gynhelir gan ofalwyr maeth Maethu Cymru Sir Fynwy. Mae FC4FC yn trefnu cyfarfodydd, gweithgareddau, partïon Nadolig a digwyddiadau eraill yn rheolaidd.