blog

Gofalu yn nes gartref: Gerard a Karen yn symud i Maethu Cymru Sir Fynwy

Ledled Cymru, mae mwy o ofalwyr maeth yn ymchwilio symud o asiantaethau maethu er-elw i’w hawdurdod lleol. Mae’n rhan o newid ehangach yn y ffordd y gofalwn am blant. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i dynnu elw o ofal plant, gyda chyfyngiadau yn dechrau yn 2026 ac yn tynhau ymhellach yn 2027, fel bod gwasanaethau yn symud tuag at fodelau nid-er-elw sy’n rhoi plant a gofalwyr yn gyntaf. Caiff hyn ei adnabod fel Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025, a gafodd Gydsyniad Brenhinol ac a ddaeth i rym ar 24 Mawrth 2025.

Mae stori Gerard a Karen yn dangos sut olwg sydd ar hynny mewn bywyd go iawn. Fe wnaethant drosglwyddo i Maethu Cymru Sir Fynwy yn 2021 yn ystod y pandemig, ar ôl bron i ddegawd fel gofalwyr maeth. Eu ffocws nawr yw babanod a phlant ifanc, yn agos gartref.

Teulu wedi trwytho mewn maethu

Mae maethu yn rhedeg yn eu teulu. “Fe wnaethom ddechrau maethu yn 2012”, esboniodd Karen. “Roedd fy mrawd yn ofalwr maeth, roedd fy mam yn ofalwr maeth, fe wnaeth fy merch wedyn ddechrau maethu ac fe wnaethom ni ei dilyn hi.”

Cyn maethu, treuliodd Karen 15 mlynedd yn gweithio gyda’r NSPCC cyn symud i’r Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd cyn penderfynu gadael ei gyrfa i faethu yn llawn-amser. Fe wnaeth Gerard ei gŵr barhau yn llawn-amser â’i yrfa, gan weithio mewn peirianneg am y rhan fwyaf o’i fywyd.

Mae’r ddau bellach wedi ‘ymddeol’ o’u swyddi blaenorol ond maent wedi gweithio’n rhan-amser ac yn llawn-amser rhwng maethu dros y blynyddoedd. Maethu yw eu ffocws llawn-amser y dyddiau hyn. Mae Karen yn ddiacon ac yn arweinydd addoliad yn eu heglwys leol ac yn dal i ganfod amser i ofalu am ei mam sy’n 93 mlwydd oed!

Mae mam Karen yn ysbrydoliaeth iddi, ar ôl maethu mwy na 50 o blant fel gofalwr sengl nes iddi ymddeol yn 73 – y math o enghraifft a osododd y cywair ar gyfer popeth a ddaeth wedyn.

Dros y blynyddoedd mae Karen a Gerard wedi maethu 10 teulu Rhiant a Phlentyn, 3 Rhiant a Phlentyn (Seibiant Byr), wedi croesawu 7 Baban neu Blant Tymor Byr a gofalu am o leiaf 5 o Blant Hirdymor. Mae’n llawer o gariad a gwybodaeth ymarferol.

I ddarllen mwy am y mathau o faethu a gynigiwn yn Maethu Cymru Sir Fynwy cliciwch yma.

Gallwch ddysgu mwy am faethu Tymor Byr yn ein blog.

Karen and Gerard blog. Image of Karen with baby

Pam y gwnaethant drosglwyddo

Erbyn 2021, roeddent yn teimlo nad oedd eu hasiantaeth maethu yn gofyn iddynt ofalu am lawer o blant ifanc. “Roeddem eisiau maethu babanod yn benodol, a doedd asiantaethau maethu annibynnol ddim yn medru lleoli babanod gan eu bod fel arfer yn gwneud hynny yn fewnol.” Gallai Sir Fynwy ddarparu ar gyfer yr ystod oedran oedd orau ganddynt ac, yn hollbwysig, gynnig lleoliadau mwy cyson.

Fe wnaeth Karen a Gerard ystyried y gostyngiad yn y gyfradd taliad wythnosol gan eu hasiantaeth annibynnol gyfredol gyda maethu mwy aml gyda’r awdurdod lleol, a sylweddoli drwyddi draw y byddai symud i awdurdod lleol yn gadarnhaol. “Gydag asiantaeth annibynnol roeddech ar restr a doedd dim digon o blant i’w lleoli gyda phob gofalwr maeth, felly roedd amserau aros rhwng lleoliadau yn eithaf hir. Roedd hynny’n golygu nad oedd unrhyw arian yn dod mewn am gyfnodau estynedig”. Maent hefyd wedi gweld arbedion ymarferol yn lleol: “Fe wnaeth Maethu Cymru Sir Fynwy gytuno’n ddiweddar i ostwng y Dreth Gyngor ar gyfer gofalwyr maeth gan £100 y mis, sy’n swm sylweddol.”

I weld pa gymorth a gwobrau eraill a gynigir gan Gofal Maeth Sir Fynwy cliciwch yma.

Beth sy’n teimlo’n wahanol gyda’r awdurdod lleol?

Mwy o lais. Mwy o gysylltiad.

Un newid y mae Gerard a Karen yn ei werthfawrogi yw mynediad uniongyrchol i’r bobl sy’n adnabod y plentyn orau. “Mae’n bendant yn rhwyddach nawr. Gallwn gysylltu a siarad yn uniongyrchol gyda gweithiwr cymdeithasol y plentyn. Doedd yr asiantaeth annibynnol ddim yn hoffi hynny, roedd yn rhaid i ni fynd drwy’r asiantaeth.” Mae’r berthynas uniongyrchol honno yn eu helpu i eiriol dros blant a theimlo’n rhan o’r tîm o amgylch y plentyn.

Maent hefyd yn teimlo eu bod yn gallu gosod ffiniau cliriach yn well ar gyfer pwy y maent eisiau gofalu amdanynt. “Mae’n rhwyddach cael yr ystod oedran sydd orau gennych gyda Maethu Cymru Sir Fynwy.” Mae hynny’n bwysig i ofalwyr sy’n arbenigo mewn babanod. Mae hefyd yn helpu plant i aros yn agos. “Mae trefn reolaidd dda yn hanfodol ar gyfer babanod. Mae teithio hir yn tarfu’n wael iawn ar y drefn reolaidd honno. Mae’r rhan fwyaf o leoliadau babanod yn lleol oherwydd cyswllt amser teulu. Nid yw cludo babi ifanc am oriau yn addas nac yn dderbyniol.”

teen mum and baby

Plant sy’n cyfateb â’u cryfderau a dewisiadau

Mae Gerard a Karen yn agored am sut y gall maethu drwy asiantaethau annibynnol er-elw weithiau deimlo’n fwy cymhleth. Fel yr esboniodd Karen: “Mae plant gyda lefelau llai cymhleth o anghenion sy’n ateb eich dewisiadau yn fwy tebygol o gael eu paru yn lleol drwy Maethu Cymru Sir Fynwy”. Ar gyfer Gerard a Karen, mae’r dull lleol hwn yn golygu eu bod yn aml yn cael cynnig babanod a phlant iau, sy’n cyd-fynd yn dda gyda’u profiad a’u cryfderau. Mae cael eu paru yn lleol, gydag ystod oedran clir, yn rhoi’r cyfle gorau iddynt ddarparu gofal cyson a chefnogol.

Teimlo’n rhan o rywbeth mwy

O ddydd i ddydd, mae eu gweithiwr cymdeithasol goruchwylio a gweithiwr cymdeithasol y plentyn yn gwneud iddynt deimlo y cânt eu gwerthfawrogi. “Mae’n dibynnu ar y gweithiwr cymdeithasol, ond rwyf yn teimlo fy mod yn cael fy ngwerthfawrogi – ac mae’r rheolwyr yn agos atoch.” Dydyn nhw ddim bob amser yn medru mynd i’r boreau coffi oherwydd mai trefn reolaidd y babanod sy’n cael blaenoriaeth, ond maent yn gwybod fod y gefnogaeth yno pan mae ei hangen. Ychwanegodd Karen eu bod yn aml yn falch o dderbyn doethineb gofalwyr eraill pan fo angen, gan ddweud “Rwy’n dysgu mwy drwy siarad i ofalwyr eraill na’r hyfforddiant weithiau. Mae’n brofiad bywyd.”

“Roedd trosglwyddo yn ystod Covid yn teimlo’n hir.” – Beth sy’n newid?

Fe wnaethant drosglwyddo ar amser anodd. “Roedd yn chwe mis ac yn ystod Covid, felly dim cyfarfodydd wyneb i wyneb. Roedd yn teimlo fel dechrau o’r dechrau eto.” Roedd yr onestrwydd hwnnw yn cyfri ac fe wnaeth helpu gwasanaethau i ddysgu. Mae llawer wedi newid yn y broses drosglwyddo ers Covid. Mae awdurdodau lleol ledled Cymru yn gweithredu ar adborth gan ofalwyr fel bod trosglwyddo yn cydnabod profiad presennol, torri ailadrodd ac yn teimlo’n fwy personol. Mae’r broses drosglwyddo yn gyflymach nag erioed, tra’n cynnal y broses sgrinio drwyadl fel y gallwn gynnal ansawdd eithriadol gofalwyr maeth ar gyfer ein plant. Mae rhaglen Llywodraeth Cymru yn ymwneud â mwy na newid cyfreithiol. Mae’n symud tuag at system sefydlog nid-er-elw sy’n cadw plant yn agos at eu cymunedau ac yn cefnogi gofalwyr i wneud eu gwaith gorau.

Hyfforddiant sy’n gweithio o amgylch bywyd go iawn

Mae dysgu parhaus yn rhan bwysig o faethu ar gyfer Karen a Gerard, yn arbennig pan ddaw i ddatblygu’r sgiliau ymarferol a’r hyder sydd eu hangen i gefnogi babanod o ddydd ddydd. Fel llawer o ofalwyr, gall weithiau fod yn her i ganfod yr amser a’r gofod ar gyfer hyfforddiant wrth ochr cyfrifoldebau maethu.

Fel yr esboniodd Karen: “Dim ond un cwrs hyfforddi wyneb yn wyneb a gawsom yn y tair blynedd ddiwethaf. Mae’r rhan fwyaf o ddysgu ar-lein erbyn hyn, a phan ydych yn gofalu am fabanod mae’n anodd neilltuo amser.”

Mae Maethu Cymru Sir Fynwy yn parhau i weithio ar hyn, gan gynyddu nifer a hygyrchedd sesiynau lleol, tra hefyd yn agor cyfleoedd dysgu ar draws y cyngor. Mae hefyd ffocws parhaus ar gymorth gan ofalwyr maeth eraill – creu mwy o gyfleoedd i ofalwyr, gysylltu, rhannu profiadau a dysgu gan ei gilydd, oherwydd yn aml profiad bywyd yw’r hyfforddiant mwyaf grymus.

Darllenwch ein blog ar y gefnogaeth a gaiff gofalwyr maeth Maethu Cymru Sir Fynwy, gyda manylion y cymorth a gynigir gan ofalwyr eraill.

parent and child

Cadw plant yn lleol

Mae’r diben yn glir i Gerard a Karen. “Mae’n rhaid iddo fod am yr hyn sy’n iawn ar gyfer y plentyn neu’r babi hynny.” Fel arfer cadw babanod yn agos at amser teulu a chymuned sydd orau. Maent wedi gweld y gwahaniaeth y gall llai o deithio ei wneud ar gyfer y plentyn ac ar gyfer gofalwyr. Mae hyn yn gydnaws â’r cyfeiriad cenedlaethol, lle caiff y system ei hail-lunio i gadw plant yn agos i’w cartrefi a sicrhau fod lleoliadau ar gael o fewn Cymru. Bydd cyfyngiadau a ddaw i rym o 2026 a 2027 yn cyfyngu ehangu er-elw a chofrestriadau newydd, gan helpu’r sector i symud tuag at ddarpariaeth nid-er-elw sy’n cadw adnoddau mewn gwasanaethau lleol.

“Yn bendant iawn mae cynifer o blant sydd angen maethu yn Sir Fynwy”

Maent yn teimlo’n hyderus wrth edrych i’r dyfodol. Gall sefydlogrwydd, paru clir a chyfle i weithio’n agos gyda gweithiwr cymdeithasol y plentyn olygu y medrant roi eu hegni i’r hyn a wnânt orau – gofal cariadus a chefnogol. Lle mae cyfleoedd ar gyfer gofalwyr maeth presennol awdurdodau lleol, mae cyfleoedd ar gyfer gofalwyr maeth Maethu Cymru y dyfodol. Dyma ble’r ydym angen eich help.

Ydych chi’n meddwl am drosglwyddo?

Os ydych chi yn maethu gydag asiantaeth annibynnol er-elw ac â diddordeb mewn gwybod sut beth fyddai symud, gallai profiad Gerard a Karen helpu. Ydi, mae newid yn cymryd ychydig o ymdrech. Ond fyddwch chi ddim yn dechrau o’r dechrau eto. Byddwch yn dod â’ch sgiliau i mewn i dîm sy’n gosod plant yn lleol ac yn rhoi rhan uniongyrchol i chi mewn penderfyniadau. Byddwch yn rhan o system yng Nghymru sy’n symud ymaith o elw a thuag at y gofal sy’n buddsoddi yn ôl mewn plant a gofalwyr.

Dechreuwch sgwrs gyda Maethu Cymru Sir Fynwy. Gofynnwch am yr ystod oedran sydd orau gennych, y gefnogaeth leol a sut olwg fyddai ar drosglwyddo i chi. Gallwn drefnu hynny hefyd os hoffech siarad gyda gofalwr arall. Os ydych chi’n byw yn rhywle arall yng Nghymru, ewch at wefan Maethu Cymru, ble gallwch gael hyd i’r holl wybodaeth angenrheidiol am faethu ynghyd a manylion cyswllt ar gyfer gwasanaeth maethu eich awdurdod lleol.

Gallwch weld ein canllawiau trosglwyddo yma i gael darlun mwy manwl o sut beth yw trosglwyddo i Maethu Cymru Sir Fynwy mewn gwirionedd.

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch